2014 Rhif 58 (Cy. 5)

ADEILADU AC ADEILADAU, CYMRU

Rheoliadau Adeiladu (Arolygwyr Cymeradwy etc.) (Diwygio) (Cymru) 2014

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Adeiladu (Arolygwyr Cymeradwy etc.) 2010 (“Rheoliadau 2010”). Roedd Rheoliadau 2010 yn ei gwneud yn ofynnol i arolygwyr a gymeradwyir gan gorff a ddynodwyd gan Weinidogion Cymru gyflwyno copi o'r hysbysiad cymeradwyo ynghyd â hysbysiadau a thystysgrifau penodol a bennir yn Atodlen 1 i Reoliadau 2010. Roedd yn ofynnol hefyd i'r arolygwyr gynnwys, ynghyd â hysbysiadau a thystysgrifau penodol,  ddatganiad a lofnodwyd gan yr yswiriwr i'r perwyl bod cynllun yswiriant a enwyd a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru yn gymwys i'r gwaith y mae hysbysiad neu dystysgrif yn ymwneud â hwy. Mae'r Rheoliadau hyn yn dileu'r gofynion hynny ac yn rhoi yn eu lle ofyniad bod yr hysbysiadau a'r tystysgrifau perthnasol yn datgan bod copïau o'r hysbysiad cymeradwyo a'r datganiad yswiriant ar y gofrestr a gedwir gan y corff dynodedig.

Y corff a ddynodir ar hyn o bryd o dan reoliad 3 o Reoliadau 2010 yw Cyngor y Diwydiant Adeiladu.

Mae rheoliad 3 yn ychwanegu rheoliad 5A newydd i Reoliadau 2010, gan ei gwneud yn ofynnol i arolygwr cymeradwy sy'n rhoi hysbysiadau a thystysgrifau penodol i awdurdod lleol sicrhau bod gan y corff dynodedig (neu  Weinidogion Cymru os cawsant eu cymeradwyo gan Weinidogion Cymru) gopi o'r datganiad yswiriant mewn cysylltiad â’r gwaith y mae'r hysbysiad neu'r dystysgrif yn ymwneud ag ef.

Mae rheoliad 7 o Reoliadau 2010 yn ei gwneud yn ofynnol i'r corff dynodedig (neu Weinidogion Cymru) gynnal rhestr o arolygwyr a gymeradwyir gan y corff hwnnw. Mae rheoliad 4 o'r Rheoliadau hyn yn ychwanegu gofyniad bod yn rhaid i'r corff dynodedig (neu Weinidogion Cymru) gadw'r dystysgrif gymeradwyo a'r datganiad yswiriant y cyfeirir atynt yn y rheoliad 5A newydd.

Mae rheoliad 5 yn dileu’r gofyniad yn rheoliad 30 o Reoliadau 2010 i awdurdod lleol gadw enw a chyfeiriad yr yswiriwr a lofnododd y datganiad yswiriant mewn cysylltiad â’r gwaith y mae hysbysiad neu dystysgrif yn ymwneud ag ef ar ei gofrestr o hysbysiadau a thystysgrifau.

Mae rheoliad 6 yn gwneud diwygiadau canlyniadol i'r ffurflenni perthnasol a bennir yn Atodlen 1 i Reoliadau 2010. Y ffurflenni hyn yw Ffurflen 1 (hysbysiad cychwynnol), Ffurflen 2 (hysbysiad diwygio), Ffurflen 3 (tystysgrif planiau), Ffurflen 4 (hysbysiad cychwynnol a thystysgrif planiau cyfunol) a Ffurflen 5 (tystysgrif derfynol). 

Mae rheoliadau 7 i 9 yn gwneud diwygiadau cyfatebol yn Atodlenni 2, 3 a 4 o Reoliadau 2010 i'r seiliau dros wrthod hysbysiad neu dystysgrif gan yr awdurdod lleol.

Lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. Ceir copïau oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac ar wefan Llywodraeth Cymru yn www.cymru.gov.uk.

 


2014 Rhif 58 (Cy. 5)

ADEILADU AC ADEILADAU, CYMRU

Rheoliadau Adeiladu (Arolygwyr Cymeradwy etc.) (Diwygio) (Cymru) 2014

Gwnaed                                14 Ionawr 2014

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru       16 Ionawr 2014

Yn dod i rym                      10 Chwefror 2014

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 1, 16(9), 17(1) a (6), 47(1), (2) a (5), 49(5), 50(1), (4) a (6), 51(1) a (2), 51A(2), (3) a (6) o Ddeddf Adeiladu 1984([1]), a pharagraffau 2, 4, 4A a 10 o Atodlen 1 iddi,  sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy([2]), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Adeiladu (Arolygwyr Cymeradwy etc.) (Diwygio) (Cymru) 2014.

(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru ond nid ydynt yn gymwys o ran adeiladau ynni a eithrir yng Nghymru.

(3) Yn y rheoliad hwn mae i “adeilad ynni a eithrir” yr ystyr a roddir i “excepted energy building” yn yr Atodlen i Orchymyn Gweinidogion Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) (Rhif 2) 2009([3]).

(4) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 10 Chwefror 2014.

Diwygio Rheoliadau Adeiladu (Arolygwyr Cymeradwy etc.) 2010

2. Mae Rheoliadau Adeiladu (Arolygwyr Cymeradwy etc.) 2010([4]) (“Rheoliadau 2010”) wedi eu diwygio fel a nodir yn rheoliadau 3 i 9.

Yswiriant arolygydd cymeradwy (rheoliad 5A newydd)

3. Ar ôl rheoliad 5, mewnosoder—

Approved inspector’s insurance

5A.—(1) Subject to paragraph (2), an approved inspector who gives a notice or certificate specified in paragraph (2) to a local authority must ensure that, before or on the date of the notice or certificate, the person who approved that inspector (the Welsh Ministers or a body designated under regulation 3 as the case may be) is in possession of a declaration of insurance in respect of the work to which the notice or certificate relates.

(2) Paragraph (1) applies to a notice or certificate given on or after 10 February 2014 which is—

(a)   an initial notice;

(b)  an amendment notice;

(c)   a plans certificate;

(d)  a combined initial notice and plans certificate; or

(e)   a final certificate.

(3) In this regulation a “declaration of insurance” means a declaration of insurance signed by the insurer that a named scheme of insurance approved by the Welsh Ministers applies to the approved inspector in relation to the building work to which the notice or certificate relates.

Rhestrau o gymeradwyaethau a dynodiadau

4. Yn lle rheoliad 7 rhodder—

7.—(1) The Welsh Ministers shall

(a)   maintain a list of bodies which are for the time being designated in accordance with regulation 3 for the purpose of approving inspectors;

(b)  maintain a list of inspectors for the time being approved by the Welsh Ministers; and

(c)   in respect of each approved inspector listed, keep a copy of—

                       (i)  the approval certificate, and

                      (ii)  the declaration of insurance referred to in regulation 5A.

(2) The Welsh Ministers shall—

(a)   supply to every local authority in whose area these Regulations apply a copy of the first lists of approved inspectors and designated bodies prepared under paragraph (1); and

(b)  notify every such local authority as soon as practicable of the withdrawal of any approval or designation and of any addition to the lists.

(3) A designated body shall—

(a)   maintain a list of inspectors for the time being approved by it;

(b)  in respect of each approved inspector listed, keep a copy of—

                       (i)  the approval certificate, and

                      (ii)  the declaration of insurance referred to in regulation 5A; and

(c)   notify every local authority in whose area these Regulations apply as soon as practicable after withdrawing approval from any inspector.

(4) Lists maintained under this regulation shall set out any limitation placed on the approval or designation of the persons or bodies listed and shall indicate the date on which each approval will expire.

Cofrestr o hysbysiadau a thystysgrifau

5. Yn rheoliad 30, hepgorer paragraff (2)(c).

Atodlen 1 i Reoliadau 2010 — Ffurflenni

6.(1) Mae’r ffurflenni wedi eu rhifo a bennir yn Atodlen 1 wedi eu diwygio fel a nodir ym mharagraffau (2) i (6).

(2) Yn Ffurflen 1 (hysbysiad cychwynnol)—

(a)     hepgorer is-baragraffau (a) a (b) o baragraff 4;

(b)     ar ôl paragraff 11 mewnosoder—

12. I (7) am an approved inspector for the purposes of Part 2 of the Act in respect of the work described in this notice.

13. Copies of the notice of approval and of a declaration of insurance relevant to the work described in this notice are on the register kept by the body designated under regulation 3 of the 2010 Regulations.

(3) Yn Ffurflen 2 (hysbysiad diwygio)—

(a)     hepgorer is-baragraffau (b) a (d) o baragraff 3;

(b)     ar ôl paragraff 11 mewnosoder—

12. I (6) am an approved inspector for the purposes of Part 2 of the Act and the above work is [the whole]/[part] of the work described in an initial notice given by me and dated: (11)

13. Copies of the notice of approval and of a declaration of insurance relevant to the work described in this notice are on the register kept by the body designated under regulation 3 of the 2010 Regulations.; ac

(c)     ar ôl Nodyn (10) mewnosoder—

(11) Insert date.

(4) Yn Ffurflen 3 (tystysgrif planiau), yn lle paragraff 3 rhodder—

3. Copies of the notice of approval and of a declaration of insurance relevant to the work described in this certificate are on the register kept by the body designated under regulation 3 of the 2010 Regulations.

(5) Yn Ffurflen 4 (hysbysiad cychwynnol a thystysgrif planiau cyfunol)—

(a)     hepgorer is-baragraffau (a) a (b) o baragraff 4;

(b)     ar ôl paragraff 15 mewnosoder—

16. I (7) am an approved inspector for the purposes of Part 2 of the Act in respect of the work described in this notice.

17. Copies of the notice of approval and of a declaration of insurance relevant to the work described in this notice are on the register kept by the body designated under regulation 3 of the 2010 Regulations.

(6) Yn Ffurflen 5 (tystysgrif derfynol) yn lle paragraff 6 rhodder—

6. Copies of the notice of approval and of a declaration of insurance relevant to the work described in this certificate are on the register kept by the body designated under regulation 3 of the 2010 Regulations.

Atodlen 2 i Reoliadau 2010 — Y Seiliau dros Wrthod Hysbysiad Cychwynnol, Hysbysiad Diwygio, neu Dystysgrif Planiau wedi ei Chyfuno â Hysbysiad Cychwynnol

7. Yn Atodlen 2—

(a)     hepgorer paragraff 5; a

(b)     yn lle paragraff 6 rhodder—

6. In the case of a notice dated on or after 10 February 2014, having taken all reasonable steps to establish whether there is a named scheme of insurance approved by the Welsh Ministers in relation to the work described in the notice, the local authority believe that this is not the case.

Atodlen 3 i Reoliadau 2010 — Y Seiliau dros Wrthod Tystysgrif Planiau, neu Dystysgrif Planiau wedi ei Chyfuno â Hysbysiad Cychwynnol

8. Yn Atodlen 3, yn lle paragraff 6 rhodder—

6. In the case of a certificate dated on or after 10 February 2014, having taken all reasonable steps to establish whether there is a named scheme of insurance approved by the Welsh Ministers in relation to the work to which the certificate relates, the local authority believe that this is not the case.

Atodlen 4 i Reoliadau 2010 — Y Seiliau dros Wrthod Tystysgrif Derfynol

9. Yn Atodlen 4, yn lle paragraff 5 rhodder—

5. In the case of a certificate dated on or after 10 February 2014, having taken all reasonable steps to establish whether there is a named scheme of insurance approved by the Welsh Ministers in relation to the work to which the certificate relates, the local authority believe that this is not the case.

 

 

 

 

 

 

Carl Sargeant

Y Gweinidog Tai ac Adfywio, un o Weinidogion Cymru

 

14 Ionawr 2014

   



([1])           1984 p.55; diwygiwyd adran 1 gan adran 1 o Ddeddf Adeiladau Cynaliadwy a Diogel 2004 (p.22) a diwygiwyd  adran 47(1) gan adran 8 o'r Ddeddf honno a chan O.S. 1996/1905; diwygiwyd adrannau 50(1) a 51(1) gan O.S. 1996/1905 a mewnosodwyd adran 51A gan yr offeryn hwnnw; mewnosodwyd paragraff 4A o Atodlen 1 gan adran 8 o'r Ddeddf honno.

([2]             Trosglwyddwyd y swyddogaethau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 1, 16(9), 17(1) a (6), 47(1), (2) a (5), 49(5), 50(1), (4) a (6), 51(1) a (2), 51A(2), (3) a (6) o Ddeddf Adeiladu 1984 a pharagraffau 2, 4, 4A a 10 o Atodlen 1 iddi, i'r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i Weinidogion Cymru gan Orchymyn Gweinidogion Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) (Rhif 2) 2009 (O.S. 2009/3019).

([3])           O.S. 2009/3019. Trosglwyddodd Gorchymyn Gweinidogion Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) (Rhif 2) 2009 swyddogaethau penodol a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan Ddeddf Adeiladu 1984, i’r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i Weinidogion Cymru. Darparodd erthygl 3(a) o’r Gorchymyn nad oedd swyddogaethau wedi eu trosglwyddo i’r graddau yr oeddent yn arferadwy mewn perthynas ag adeilad ynni a eithrir fel y diffinnir “excepted energy building” yn yr Atodlen i’r Gorchymyn.

([4])           O.S. 2010/2215 fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2012/3119,  O.S. 2013/747 ac O.S. 2013/1959.